Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (191) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 - 11. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau
NDM5486 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Llywodraeth Cymru o ganlyniadau TGAU Saesneg mis Ionawr 2014
Dechreuodd yr eitem am 15.12
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynnydd o ran Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.13
6 Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM5432 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru).
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Bil Tai (Cymru) yn rhoi sylw i'r cyflenwad tai cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
9 |
24 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru).
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Tai (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5480 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Tai (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.58
Daeth y cyfarfod i ben am 17.59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 2 Ebrill 2014